+Y Grŵp Trawsbleidiol ar Asbestos

Dyddiad: 27 Ionawr 2016, 17:30 - 19:15

 

Yn bresennol:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd) (NR)

Aled Roberts AC (AR)

Cenric Clement-Evans, NewLaw Solicitors (Ysgrifennydd) (CCE)

John McClean, Grŵp Asbestos mewn Ysgolion (JMc)

Joseph Carter, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint (JC)

Rex Phillips, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (RP)

Julie Cook, TUC Cymru (JCo)

Simon Fleming Undeb y Brigadau Tân (SF)

Jon Antoniazzi, Gofal Canser Tenovus (JA)

Mike Payne, GMB (MP)

Nick Blundell Undeb Adeiladu, Crefftau Perthynol a Thechnegwyr (NB)

Joanne Barnes-Mannings, Asbestos Awareness and Support Cymru (JBM)

Julian Cason, Slater a Gordon Solicitors (JCa)

Philip Gower, Simpson Millar Solicitors (PG)

Kim Barrett, Irwin Mitchell Solicitors (KB)

Charlotte Perkins, Hugh James Solicitors (CP)

Michael Imperato, Watkins & Gunn Solicitors (MI)

Lowri Morgan, NewLaw Solicitors (cofnodydd) (LM)

 

1.     Croeso a chyflwyniadau

Dechreuodd y cyfarfod heb NR gan ei fod wedi'i ddal yn y Cyfarfod Llawn. Cyflwynodd pawb a oedd yn bresennol eu hunain, a nodwyd y byddai cofnodion y cyfarfod wedyn yn cael eu cofnodi ar wefan y Cynulliad. Eglurodd CCE y weledigaeth ar gyfer y grŵp, h.y. i godi ymwybyddiaeth o glefydau sy'n gysylltiedig ag asbestos, triniaeth ac ymchwil ac i fod yn llais i'r rhai yr effeithir arnynt gan salwch asbestos.

 

2.     Ymddiheuriadau:

Mick Antoniw AC, Dr Fouad Alchami Ysbyty Felindre, Louise Lidbury RCN, Lee Campbell Ymchwil Canser Cymru, Dawn Casey Macmillan, Liz Darlison Mesothelioma UK, Jeff Parson Cyfreithiwr Eamonn McDonough Thompsons Solicitors, Dr Ian Williamson Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Jessica Blair y Sefydliad Materion Cymreig, Dr Richard Attanoos Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

3.     Cofnodion a chamau gweithredu

Mae cofnodion y cyfarfod cyntaf ar gael ar wefan y Cynulliad - nid oedd unrhyw gamau gweithredu i’w dwyn ymlaen. 

 

4.     John McClean – Ysgrifennydd y Grŵp Asbestos mewn Ysgolion (AiS) – Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Asbestos mewn Ysgolion ac Ymgyrch Pwyllgor Asbestos yr Undebau ar y Cyd Eglurodd JM y dechreuwyd yr ymgyrch 16 mlynedd yn ôl gan Michael Lees. Bu farw gwraig Michael Lees, Gina o fesothelioma ar ôl cael ei hamlygu i asbestos fel athrawes ysgol. Yn draddodiadol canolbwyntiwyd ar weithwyr diwydiannol, ond mae’r ffocws wedi symud i weithwyr mewn adeiladau a bellach i'r rheini sy'n cael eu hamlygu drwy amryfusedd i asbestos, e.e. gweithwyr mewn ysgolion. Y canlyniad delfrydol fyddai dileu’r holl asbestos o adeiladau ar unwaith, ond nid yw hyn yn mynd i ddigwydd - byddai'n costio biliynau. Ymddengys fod y pleidiau gwleidyddol am gael cyn lleied o gyhoeddusrwydd â phosibl sy'n golygu bod y mater yn cael ei roi o'r neilltu.

 

Cyfeiriodd JM at y llyfryn "Asbestos in schools,The need for action" http://www.ucu.org.uk/media/4999/Asbestos-in-schools---all-party-parliamentary-report-Feb-2012/pdf/asbestos_in_schools_booklet_lo_res.pdf a gyhoeddwyd gan Is-grŵp Asbestos y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Iechyd Galwedigaethol, sy'n amlinellu nodau'r Grŵp Asbestos mewn Ysgolion. Mae'r rhain yn cynnwys casglu data a rhoi safonau hyfforddi ar waith i bawb a allai gael eu hamlygu i asbestos. Mae Llywodraeth y DU yn dadlau na ddylid amharu ar adeilad sydd ag asbestos os yw mewn cyflwr da. Mae’r grŵp Asbestos mewn Ysgolion yn anghytuno – mae ysgolion yn amgylcheddau unigryw sy'n llawn bwrlwm bywyd ysgol. Maent yn ardaloedd arbennig a dylid cynnal profion asbestos yn yr amgylchedd priodol i adlewyrchu hyn. Mae plant yn fwy agored i niwed oherwydd bod y peryglon cudd o’u hamgylch am gyfnod hwy. Yn America, mae’n rhaid i ysgolion roi’r wybodaeth ddiweddaraf am asbestos i’r holl staff, rhieni a disgyblion yn flynyddol. Mae hyn yn rhywbeth y dylem ni ei efelychu yma. Mae’r Llywodraeth yn dadlau mai codi bwganod yw hyn, ond mae'n ymwneud â darparu gwybodaeth. Mae'r gyfraith yn darparu bod yn rhaid cadw cofnodion ynglŷn ag asbestos mewn adeiladau; ni ddylai fod yn rhy feichus i drosglwyddo'r wybodaeth hon i'r rhai sy'n wynebu’r risg o gael eu hamlygu i asbestos.

 

Dylid cynnal arolygiadau rhagweithiol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) hefyd, ond nid yw hyn yn digwydd oherwydd bod asbestos mewn adeiladau yn cael ei restru fel risg isel. Ar hyn o bryd mae addysg wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru ond nid yw iechyd a diogelwch na’r HSE wedi’u datganoli. Pe bai’r HSE yn cael ei ddatganoli, byddai cyfle i bwyso am arolygiadau rhagweithiol. Ar hyn o bryd, dim ond yng Ngogledd Iwerddon y mae’r HSE wedi ei ddatganoli. Gofynnodd JCo a yw'r system yng Ngogledd Iwerddon yn effeithiol. Nododd JM ei fod yn gweithio’n dda mewn egwyddor ond nid oedd yn sicr a oedd yn gweithio cystal yn ymarferol. Mae JM yn ymchwilio ymhellach i hyn. Mae'n ymwneud mwy â gair na gweithred, ond o leiaf mae ganddynt bolisi y gellir pwyso arno. Bydd JCo yn siarad â Chyngres Undebau Llafur Iwerddon (ICTU) oherwydd os yw'n gweithio yng Ngogledd Iwerddon, gallai weithio yma. Nododd JM fod asbestos mewn ysgolion yn fater i’r DU gyfan ond ymddengys fod gwledydd eraill y DU yn fwy blaengar na Lloegr. Pe bai’r HSE wedi ei ddatganoli yng Nghymru ac arolygiadau rhagweithiol yn cael eu rhoi ar waith yma, gallai sbarduno newid ehangach ledled y DU.

 

Nododd JM eu bod wedi penodi Rachel Reeve AS yn Gadeirydd newydd yn ddiweddar a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ddoe (26.01.16). Mae cael AS ynghlwm â’r gweithgareddau’n golygu y rhoddir ychydig o rym i’r ymgyrch. Gallant ofyn cwestiynau Seneddol ac mae posibilrwydd ar gyfer cwestiynau i'r Prif Weinidog. 

 

Roedd y TUC wedi cyflwyno polisi dileu asbestos sy'n cynnwys dyheadau o bob cwr o’r byd. Cafodd hwn bellach ei fabwysiadu fel un o bolisïau’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol. Y cynnig yw i bob adeilad gael ei arolygu ac i’r holl asbestos gael ei dynnu o fewn 20 mlynedd. Mae'n rhoi rhywfaint o rym ond nid oes ganddo unrhyw statws cyfreithiol; mae'n feincnod ond yn fater y mae pobl yn ei nodi. Gofynnodd CCE a oedd hwn yn bolisi y gallem ei fabwysiadu a’i godi gyda Llywodraeth Cymru. Cytunodd MP y dylem yn sicr wneud hynny a dylid gwneud hynny’n breifat ac yn ffurfiol drwy ofyn am gyfarfodydd cyn gynted â phosibl. Byddai MP yn fodlon cynorthwyo ond awgrymwyd efallai mai JCo fyddai yn y sefyllfa orau i wneud hynny. Bydd Gweinidogion yn edrych ar faterion yn ymwneud ag adnoddau a byddant yn dadlau nad yw o fewn eu pwerau ond mae angen ei wthio ymlaen. Mae hwn yn fater y gallem dynnu sylw ato cyn yr etholiadau, i’w gynnwys ym maniffestos y pleidiau. Ymhlith y Gweinidogion posibl i siarad â hwy roedd Carl Sergeant AC a Huw Lewis AC. Cafwyd cydnabyddiaeth gan y Gweinidog bod asbestos mewn adeiladau yn broblem ond ymddengys mai’r agwedd yw ei fod yn fater rhy fawr - ble dylem ddechrau? Mae angen inni dorri drwy'r ddadl gylchol a symud ymlaen. Efallai y gallai Huw Lewis roi arweiniad ar sut i wneud hynny. Soniodd CCE am faniffesto Pwyllgor Asbestos yr Undebau ar y Cyd a sut y gellid diwygio hwn i gyd-fynd â’n dibenion a’i rannu gyda'r grŵp.

 

Nododd MI ein bod yn edrych ar gelfyddyd y posibl - y gamp yw trafod gyda'r bobl briodol a chael canllawiau ynglŷn â pha mor bell y gallwn fynd â’r mater hwn. Ni ddylem fod yn gofyn am berffeithrwydd, mae angen inni ofyn am gynnydd fel bod gennym rywbeth i adeiladu arno. Ni allwn gyflwyno rhywbeth sy'n ormod o her. Dywedodd JM eu bod wedi edrych ar faniffesto’r DU pan wnaethant ddechrau ond mae’n fwy o broblem yn Lloegr oherwydd yr holltiadau ym myd addysg. Yng Nghymru mae'n rhywbeth y gallwn ei ddefnyddio gan nad yw’r broblem honno’n bodoli. Yr hyn sydd ei angen arnom yw maniffesto sy’n ymrwymo i fynd i'r afael â’r mater drwy roi dulliau casglu data ac arolygon ar waith. Mae Mike Green, Cadeirydd Grŵp Llywio Asbestos mewn Ysgolion yr Adran Addysg wedi cydnabod bod plant yn agored i niwed. Mae lefelau diogel o amlygiad wedi'u pennu, yn seiliedig ar amlygiad gan weithwyr sy'n profi neu’n tynnu asbestos, ond nid ar gyfer y rheini sy'n cael eu hamlygu drwy amryfusedd yn fwy rheolaidd. Mae angen gostwng y lefelau diogel i adlewyrchu realiti’r amgylchedd.

 

Nododd MP a RP fod angen inni edrych ar sut i symud ymlaen. Mae trefniant partneriaeth gymdeithasol ar waith gyda TUC Cymru, sy'n rhoi cyfle inni godi’r mater drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu Addysg. Bydd hyn yn cael ei godi drwy’r undebau llafur gyda gweision sifil ar lefel leol yn y lle cyntaf, ond maent yn debygol o fod am ei ddwysáu i Gyngor y Gweithlu. Gallai hyn arwain at drafodaeth fawr gan wleidyddion. Cadarnhaodd JCo fod hyn yn syniad da a gallent gynnal cyfarfod rhwng yr undebau llafur a grŵp y Llywodraeth ar sut i symud y mater ymlaen. Wedyn byddant yn adrodd yn ôl i weddill y grŵp. 

 

Dywedodd JM mai’r hyn sydd ei angen yw cynllun dileu graddol a'r angen i ddarparu’r adnoddau i wneud hynny ond er mwyn gwneud hynny mae angen y data arnom. Dywedodd JM ei fod yn hapus i roi cymorth, arweiniad a’i brofiad lle mae hynny'n bosibl.

 

5.     Hawl i wybod

 

Eglurodd CCE fod yr ymgyrch yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru. Dechreuwyd deiseb ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol <http://www.senedd.assembly.wales/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8437&Opt=0> yn galw ar i rieni a gwarcheidwaid gael gwybodaeth am asbestos yn ysgol eu plentyn, sut y caiff ei reoli a mynediad at y wybodaeth ar-lein. Dim ond nifer fach o lofnodion oedd ar y ddeiseb ond mae’r Pwyllgor Deisebau wedi ei hystyried ar sawl achlysur, ac fe'i hystyrir yn fater pwysig. Mae’r holl ohebiaeth rhwng y Pwyllgor Deisebau a'r Gweinidog, a chyda CCE ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol. Rhoddodd CCE dystiolaeth ar 20 Hydref. Rhoddodd y Gweinidog ei dystiolaeth ar 24 Tachwedd. Soniodd CCE am gyfnewid e-byst gyda Mike Green, Cadeirydd Grŵp Llywio Asbestos mewn Ysgolion yr Adran Addysg. Yn anffodus ni roddwyd cynnwys yr e-bost i’r Gweinidog. Y dystiolaeth a roddwyd oedd bod cylch gwaith yr Adran Addysg yn cynnwys ysgolion yn Lloegr yn unig, ond maent yn fodlon cynorthwyo Cymru. Dywedodd y Gweinidog fod gweithgor wedi cyfarfod yn ystod haf 2014 a oedd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, y GIG yng Nghymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a HSE. Ble’r oedd cynrychiolwyr yr Undebau Llafur? Ble’r oedd y cofnodion? Mae'n debyg y cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr neu Chwefror, ar ôl cyfarfod nesaf Grŵp Llywio’r Adran Addysg, nad yw wedi’i gynnal eto. Mae CCE wedi ysgrifennu at y Pwyllgor yn galw am i grŵp llywio yng Nghymru adlewyrchu dull Lloegr a dylai gynnwys yr undebau llafur, Llywodraethwyr Cymru, Awdurdodau Llywodraeth Leol Cymru, gweithwyr meddygol proffesiynol, ymgynghorwyr asbestos a HSE. Dylai fod yn grŵp eang o bobl sy’n ddigon cyfarwydd â’r mater. Ble mae'r tryloywder, yr atebolrwydd a’r gynrychiolaeth? Mae CCE wedi cyfarfod ag amrywiol Aelodau Cynulliad ers hynny ac mae i fod i gyfarfod ag eraill.

 

Dywedodd JM fod y Gweinidog yn awgrymu bod gan Gymru statws sylwedydd ar grŵp llywio Lloegr ond beth mae hynny’n ei olygu, ai dim ond darllen y cofnodion y maent? Gallech ddadlau bod grŵp llywio Cymru yn ddyblygiad ond nid yw ysgolion yng Nghymru yn cael eu hystyried – mae bwlch datganoli. Dywed y Gweinidog mai rôl alluogi sydd ganddynt hwy i ddarparu'r wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf. Nododd CCE fod diffyg adrodd am gwynion ynghylch asbestos mewn ysgolion ond mae hyn o ganlyniad i ddiffyg ymwybyddiaeth - ni fydd pobl yn gofyn os nad ydynt yn gwybod. Gofynnodd CCE beth fydd yn digwydd i ddata ar-lein os bydd gostyngiad yn nifer yr awdurdodau lleol. Mae mwy a mwy yn cael ei wneud ar-lein ac ni ddylai fod yn rhy feichus i ddefnyddio hyn. Mae angen costio hyn, ond mae hwn yn gwestiwn i lywodraeth leol.

 

Nodwyd fod CG wedi dweud yn y cyfarfod blaenorol y byddai’r gwasanaeth tân yn elwa o gael mynediad at ddata ar-lein. Mae cyfrifiadur ar bob peiriant tân, a fydd yn nodi asbestos os cafodd ei ganfod mewn ymweliadau risg, er enghraifft, ond mae llawer o adeiladau lle nad ydym yn gwybod y naill ffordd na’r llall. Nododd SF mai ôl-ystyriaeth yw asbestos fel arfer, efallai oherwydd natur ac uniongyrchedd y llinell gwaith yr ydym ynddi ond nid fel hyn y dylai fod. Bydd cyfarpar anadlu yn diogelu diffoddwyr tân rhag halogiad, ond gall y peryglon fod yn fwy i’r rheini sydd ymhellach i ffwrdd heb RPE ddigonol. Dywed y rheolwyr eu bod mewn perygl isel ond os yw diffoddwr tân yn gwasanaethu am 30-40 mlynedd ac yn anadlu ffibrau bach yn ystod y cyfnod hwn o amser, mae mewn perygl. Nododd RP y rhoddwyd sticeri mewn adeiladau a oedd yn cynnwys asbestos, am gyfnod byr ond ymddengys fod yr arferiad hwn wedi dod i ben. Soniodd CCE hefyd am y peryglon a achosir gan lifogydd, e.e. os oes llifogydd drwy nenfwd asbestos. Gofynnodd JC a oedd hyn yn golygu y byddai dŵr sy’n gadael yr adeilad wedi'i halogi ag asbestos. Cadarnhaodd SF fod yr Asesiad Risg Cenedlaethol yn nodi y gallai dŵr sy’n llifo fod wedi'i halogi ac y dylid ei ddal.

 

Nododd CCE nad yw athrawon yn ystyried y risg i asbestos ond pam y byddent yn gwneud hynny –ni ddywedir wrthynt pa mor bwysig ydyw. Cyfeiriodd at yr ysgol a oedd wedi llosgi i lawr ar Ddydd Calan a holodd a gafodd y mater o asbestos ei ystyried ar ôl y tân, a chyn caniatáu i'r plant ddychwelyd i'r ysgol. Wedyn dangosodd CCE ddelwedd i’r grŵp, a grëwyd i ddechrau gan Michael Lees, ac sy’n cael ei ddatblygu gan Dîm Cymorth Asbestos Swydd Derby. Mae’n darlunio ysgol a lle y bydd asbestos i'w ganfod. Mae cynlluniau ar y gweill i sicrhau y bydd hwn ar gael yn electronig i godi ymwybyddiaeth. Maent ar hyn o bryd yn chwilio am gyllid i ariannu hyn ac mae nifer o undebau wedi cyfrannu.

 

Dywedodd MP eu bod yn disgwyl i ddiffoddwyr tân a phlant fynd i mewn i’r adeiladau hyn ond dylid cynnal asesiadau risg cyn i unrhyw un fynd yn agos atynt. Mae cynlluniau adeiladau eisoes yn bodoli felly pam na ellir eu diweddaru i ddangos ardaloedd o asbestos? Mae angen inni fod yn fwy cadarn o ran gwthio’r Llywodraeth a gofyn i Aelodau Cynulliad y meinciau cefn am ddadleuon Aelodau preifat. Mae'n bosibl noddi dadl, e.e. ar ddeiseb. Nododd y gallem ofyn cwestiynau i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig a allai arwain at ddadl yn Neuadd San Steffan. Nododd CCE ei fod wedi cyfarfod â Craig Williams AS, a oedd wedi cytuno i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglŷn â’r mater. Nododd MP fod hyn yn debygol o gael ymateb preifat yn hytrach nag un ffurfiol. Y mwyaf o geisiadau y gallwn eu rhoi gan Aelodau Cynulliad, y mwyaf tebygol y bydd y mater o gael amser. Mae angen consensws trawsbleidiol. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i osgoi'r mater. Dylai pob aelod o'r bwrdd fod yn gofyn am ddadl. Nododd AR eu bod wedi cael y ddadl ond dywedir wrthynt mai mater i’r HSE ydyw ac nid mater iddynt hwy ymdrin ag ef. Nododd y cynhelir y balot nesaf yfory felly’r cyfle nesaf i roi cynnig ar hyn fyddai ar gyfer y 5ed Cynulliad. Mae Gweinidogion yn cael eu llywio gan y gweision sifil ac yn dweud mai mater i San Steffan yw hwn. Bydd yn ddiddorol gweld a fydd y safbwynt hwn yn newid pan fydd y Gweinidog yn newid.

 

Gofynnodd JC a fyddai’n syniad i’r cyfreithwyr a oedd yn bresennol ddrafftio Bil Aelod preifat o fewn cymwyseddau’r Cynulliad, y gellid wedyn ei roi i gyfreithwyr y Cynulliad. Nododd CCE y byddai'n trafod hyn gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr Anaf Personol i weld a oes unrhyw ddiddordeb a byddai’n adrodd yn ôl. Nododd MI fod angen inni ennyn cefnogaeth drawsbleidiol yn gyntaf ac yna symud ymlaen o’r fan honno, ond eto roedd yn cynghori o ran celfyddyd y posibl. Dywedodd AR ei bod yn debygol y gallech fynd â’r Bil i ddarlleniad 1af ac 2il ond yng nghyfnod 3, byddai chwip y blaid yn cael ei gosod. Mae angen Gweinidog y Llywodraeth a fydd yn trafod sut i symud ymlaen.

 

6.     Joseph Carter, BLF Cymru – y Bil Mesothelioma

Eglurodd JC fod dau fil ar wahân yn mynd drwy San Steffan ar hyn o bryd; un yn Nhŷ’r Arglwyddi a’r llall yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae'n rhagweld y bydd bil Tŷ'r Cyffredin yn dod i ben yr wythnos hon ond mae bil Tŷ’r Arglwyddi yn gwneud yn well ac mae ganddo gefnogaeth. Mae wedi mynd drwy ei ail ddarlleniad ac mae bellach yn y cyfnod Pwyllgor a bydd yn rhaid ymdrin ag ef cyn Araith y Frenhines. Mae'r Bil yn galw am ardoll ar yswirwyr i ariannu gwaith ymchwil i fesothelioma. Dosbarthodd JC daflen yn crynhoi'r sefyllfa gyda'r Bil. Dywedodd fod yr elusen yn canolbwyntio ar waith ymchwil ac mae’n gefnogol iawn o'r bil. Nid yw ariannu gwaith ymchwil yn wirfoddol yn digwydd. Pan fydd pobl yn cael diagnosis o fesothelioma mae'n sefyllfa anobeithiol. Y gwaethaf yw’r diagnosis, y lleiaf o ddewisiadau sydd ar gael o ran triniaethau. Bydd yn her i symud y Bil ymlaen pan fydd yn mynd yn ôl i Dŷ'r Cyffredin a hyd yn oed os bydd y Bil yn mynd yn ei flaen, bydd angen i'r Llywodraeth ei roi ar waith. Yn y cyfamser, mae'r elusen yn gweithio y tu ôl i'r llenni i gael cymorth - os na chaiff y Bil ei basio bydd angen buddsoddi mwy. Soniodd CCE ei fod wedi briffio'r Arglwydd Alton a'r Farwnes Finlay ar y mater cyn y ddadl ac fe wnaeth y Farwnes Finlay sôn am y mater o asbestos mewn ysgolion yng Nghymru yn y ddadl.

 

Soniodd JCo fod y gostyngiad yn y cynllun ardollau presennol yn siomedig iawn o ystyried mai asbestos yw'r lladdwr mwyaf. Dywedir llawer am y gost o gasglu data ond beth am y gost i fywydau pobl a'r rheini sy'n gofalu amdanynt. Cytunodd MP ei bod yn annoeth i edrych ar y gost o gasglu data yn unig. Nid yw’r costau eraill wedi’u cyfrif eto, tybir yn unig ei bod yn ormod o waith, ond mae angen inni ystyried y gost i fodau dynol ac i’r gymuned. Mae angen inni roi'r gorau i ddweud ei fod yn fater rhy fawr.

 

Gallai ymchwil i driniaeth wneud gwahaniaeth enfawr. Gwneir gwaith ymchwil i fathau eraill o ganser felly pam nad mesothelioma? Nododd JA y cyfleoedd ymchwil a phryder gweision sifil a Gweinidogion ynghylch y mater hwn. Mae angen inni ddarganfod a wnaed unrhyw waith ymchwil i amcanestyniadau cost - a yw’r ymatebion a roddir inni yn seiliedig ar dystiolaeth? Nododd AR fod angen ewyllys gwleidyddol arnoch i wneud gwahaniaeth. Cyfeiriodd at fater yr oedd yn ymwneud ag ef yn Wrecsam lle’r amcangyfrifwyd y byddai effaith achos o salwch yn costio £20miliwn ond yn y diwedd costiodd £20,000 iddynt. Roedd yr amcanestyniad yn seiliedig ar banig. Mae angen gwneud gwaith priodol sy'n edrych ar gostau yn iawn. Mae'n frawychus cyn lleied sy’n cael ei wneud o ran cadw cofnodion ac ati.

 

7.     Dr Alchami – Patholegydd Ymgynghorol– Ysbyty Athrofaol Cymru – 'Defnyddio Marcwyr Genetig mewn Mesothelioma yng Nghymru'

Esboniodd CCE fod Dr Alchami yn anfon ei ymddiheuriadau ond ni allai fod yn bresennol bellach oherwydd pwysau clinigol a salwch yn ei adran. Nododd CCE ei fod yn gwybod bod Dr Attanoos hefyd yn awyddus i fod yn rhan o'r grŵp.

 

 

 

8.     Etholiadau mis Mai

Gofynnodd CCE beth y dylem fod yn galw amdano os ydym yn ceisio llywio unrhyw faniffestos plaid cyn yr etholiadau. Dywedodd MP fod angen inni roi ein hamcanion i bob plaid, h.y. rydym am gasglu data erbyn dyddiad penodol a chael cynllun cam wrth gam i ddileu asbestos yng Nghymru. Mae angen dull cryno i gyflawni’r nod, ac mae angen ymrwymiad gan y pleidiau y byddant yn datblygu’r cynllun. Mae angen i’n cynnig fod yn realistig. Nododd CCE y cynhelir cyfarfod ar 3 Mawrth gyda llefarydd addysg yr NUT a’r pedair plaid wleidyddol a gallai fod yn gyfle i gyflwyno cwestiynau. Nododd CCE y byddai’n ymchwilio i hyn. Dywedodd RP y byddant yn gofyn cwestiynau i'r pleidiau ac yn pwyso am ymrwymiad ym mhob cynhadledd yn y cyfnod yn arwain at yr etholiadau. Gofynnodd ynglŷn ag amserlenni o ran bwrw ymlaen â materion. Nododd MP fod gennym o hyn tan 5 Mai felly nid ydym wedi ein cyfyngu gan derfyn amser tyn. Nododd NR y bydd y Cynulliad yn cael ei ddiddymu ar ddechrau mis Ebrill felly mae hynny’n byrhau’r amserlen ychydig. Mae MP yn argymell ein bod yn aros am ymateb JM gan y grŵp asbestos mewn ysgolion ac wedyn yn cyhoeddi ein hargymhellion i'r partïon. Gellir gwneud hyn drwy NR fel y Cadeirydd. Cytunodd MP a CCE i gydweithio ar eiriad yr argymhelliad a byddant wedyn yn cael cymeradwyaeth y grŵp i’r fersiwn derfynol.

 

Nododd JC fod llawer y gallwn ei wneud o dan enw’r grŵp os oes consensws o Aelodau Cynulliad wedi ymrwymo. Mae gennym y gallu i lunio adroddiadau y gallwn eu cyflwyno ar ran Nick gyda chefnogaeth y grŵp. Mae gan JC brofiad o hyn a chredai llawer o arbenigwyr fod yr adroddiad yr oedd ynghlwm ag ef o'r blaen yn ddogfen broffesiynol. Mae'n offeryn defnyddiol ac effeithiol gan ei fod yn rhoi hygrededd. Soniodd CCE y dylem adlewyrchu’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol yn San Steffan – mae eu llyfryn hwy wedi denu sylw. Argymhellodd CCE ein bod yn tynnu ar brofiad JC ar ôl i’r 5ed Cynulliad gael ei sefydlu. Byddai'n amser da i'w gynnwys, yn enwedig os bydd clymblaid, sydd yn edrych yn debygol.  

 

9.     Dyfodol y grŵp

 

Nododd NR y byddai’n rhaid trefnu’r cyfarfod nesaf ar ôl yr etholiad ac wedyn bydd angen ail-gyfansoddi’r grŵp. 

 

10.  Unrhyw fater arall

 

Dim